Mae Prif Weinidog yr Alban wedi cyhoeddi y bydd pobl yn cael cwrdd â theulu a ffrindiau o un cartref arall, cyhyd a’u bod yn cadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd Nicola Sturgeon na ddylai grwpiau o fwy nag wyth o bobl gwrdd â’i gilydd y tu allan ac na ddylen nhw gwrdd â phobl o gartref arall ar yr un diwrnod.

Mae hi wedi annog pobl i fod yn wyliadwrus cyn cwrdd â phobl eraill a darllen y canllawiau’n ofalus “er mwyn diogelu eich hun ac eraill.”

“Yn bennaf, mae’n rhaid aros tu allan ac aros dau fetr i ffwrdd o bobl o’r cartref arall – mae hynny’n hanfodol,” meddai.

Wrth lacio rhan gyntaf y cyfyngiadau, dywedodd Nicola Sturgeon y bydd canolfannau garddio, caffis gyrru drwodd a chanolfannau ailgylchu yn yr Alban yn cael agor. Ond mae wedi gofyn i siopau sy’n gwerthu nwyddau sydd ddim yn angenrheidiol i aros ynghau am y tro.

Ysgolion

Fe gyhoeddodd hefyd y bydd athrawon yn cael mynd yn ôl i ysgolion i baratoi ar gyfer plant yn dychwelyd i’r dosbarth ar Awst 11.

Bydd pobl hefyd yn cael eistedd a thorheulo mewn parciau lleol.

Nid oes cyfyngiad ar y pellter fydd pobl yn cael teithio ar gyfer adloniant ond dywedodd Nicola Sturgeon mai cyngor Llywodraeth yr Alban yw cadw o fewn pum milltir.

“Dy’n ni ddim eisiau, ar hyn o bryd, niferoedd mawr o bobl yn mynd i atyniadau twristaidd.”

Ychwanegodd ei bod yn teimlo’n hyderus am gyflwyno’r rhan gyntaf o lacio’r cyfyngiadau oherwydd bod y cynllun profi a diogelu wedi’i gyflwyno yn yr Alban. O dan y cynllun fe fydd prawf yn cael ei gynnal ar rheiny sydd â symptomau ac yna eu cysylltiadau yn cael eu holrhain os ydyn nhw’n cael prawf positif am Covid-19.

Mae cyfanswm o  2,316 o bobol wedi marw yn yr Alban ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws, cynnydd o 12 ers dydd Mercher, meddai.