Dylai Llywodraeth San Steffan gefnu ar ei chynlluniau i osod cwarantîn ar y rheiny sydd yn cyrraedd y Deyrnas Unedig.

Dyna’r farn sy’n cael ei adlewyrchu mewn llythyr at Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, gan benaethiaid 70 o gwmnïau teithio.

Bydd teithwyr i’r Deyrnas Unedig yn gorfod bod mewn cwarantin am bythefnos, ac mi fydd yn dod i rym ar Fehefin 8.

Yn eu llythyr, mae’r penaethiaid yn beirniadu’r cam, ac yn cyhuddo’r Llywodraeth o fod wedi ymateb yn “druenus o araf” wrth amddiffyn eu diwydiant.

“Darlun annifyr”

“Dyma’r peth diwethaf mae’r diwydiant deithio ei angen,” meddai’r llythyr. “Fydd teithwyr o dramor ddim eisiau dod yma, a fydd teithwyr o’r Deyrnas Unedig ddim eisiau mynd dramor.

“Mae covid-19 bellach dan reolaeth,” meddai wedyn. “Ac rydym yn canmol y Llywodraeth am y ffordd mae hi wedi delio â’r sefyllfa hynod a digynsail yma.

“Fodd bynnag, dyw cost gweithredoedd y Llywodraeth ddim eto wedi dod i’r fei. Wedi dweud hynny, mae’r arwyddion cynharaf yn creu darlun annifyr.”