Mae’r Undeb Ewropeaidd yn “agored” i estyniad Brexit o ddwy flynedd, meddai eu prif drafodwr, Michel Barnier.

Mewn llythyr at arweinwyr San Steffan yr SNP, Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, SDLP, Y Blaid Werdd, a’r Alliance Party, dywed Michel Barnier fod yr opsiwn o estyniad i’r cyfnod trawsnewid Brexit ar gael os yw’r Deyrnas Unedig eisiau.

Roedd arweinwyr y pleidiau hyn wedi ysgrifennu at Michel Barnier ar Fai 15 yn galw am estyniad o ddwy flynedd.

Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan Ian Blackford wedi croesawu’r llythyr gan alw ar Boris Johnson i dderbyn y cynnig er mwyn gwarchod economi’r Deyrnas Unedig yn ystod pandemig y coronafeirws.

Yn ei lythyr, dywed Michel Barnier: “Gallai estyniad o hyd at un neu ddwy flynedd gael ei gytuno rhyngom.

“Mae’r Undeb Ewropeaidd wastad wedi dweud ein bod yn agored ar y mater hwn.”

Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn erbyn ymestyniad

Mae’r Llywodraeth wedi dweud dro ar ôl tro nad ydynt yn bwriadu ymestyn y cyfnod trawsnewid tu hwnt i Ragfyr 31.

Ac mae prif negodwr y Deyrnas Unedig, David Frost, wedi ategu hynny wrth Aelodau Seneddol gan ddweud bod Prydain yn “gadarn” na fydd yn ymestyn y cyfnod pontio y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn.

Mynnodd David Frost fod Prydain yn cymryd y safiad i osgoi taliadau mwy “sylweddol” i’r Undeb Ewropeaidd.

Wrth siarad â Phwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar y Berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y Dyfodol, dywedodd Mr Frost: “Dyna bolisi cadarn y Llywodraeth – na fyddwn yn ymestyn (y) cyfnod pontio ac, os gofynnir inni, ni fyddem yn cytuno i hynny.”