Bydd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn cael ei holi gan aelodau seneddol blaenllaw ynglŷn â’r argyfwng coronafeirws heddiw (dydd Mercher, Mai 27), wrth i’r galwadau ar i Dominic Cummings ymddiswyddo barhau i dyfu.

Bydd Boris Johnson yn cael ei holi’n benodol am benderfyniad Dominic Cummings, ei brif ymgynghorydd, i ddreifio o Lundain i Durham yn ystod gwarchae’r coronafeirws.

Daw hyn wedi i o leiaf 30 o aelodau seneddol alw ar i Dominic Cummings ymddiswyddo.

Ac mae arolwg gan YouGov i’r papur newydd The Times fod cefnogaeth i’r llywodraeth wedi disgyn pedwar pwynt i 44% wrth i Lafur godi pum pwynt i 38%.

Triciau budr?

Mae ymddangosiad Boris Johnson gerbron Pwyllgor Cyswllt Tŷ’r Cyffredin yn destun cryn ddadlau wedi iddi ddod i’r amlwg mai dim ond am 20 munud fydd y Prif Weinidog yn cael ei holi ynglŷn â’r sgandal.

Mae’n debyg y bydd aelodau seneddol yn cael 20 munud allan o sesiwn 90 munud i drafod sefyllfa Dominic Cummings.

Bydd agweddau eraill o’r argyfwng coronafeirws hefyd yn cael eu trafod yn y slot 20 munud hwn.

Mae hi hefyd wedi dod i’r amlwg fod cadeiryddion dau bwyllgor seneddol wedi cael eu gwahardd rhag holi’r prif weinidog.

Mae Tom Tugendhat, sy’n gadeirydd ar y Pwyllgor Materion Tramor, a Tobias Ellwood, sy’n gadeirydd ar y Pwyllgor Amddiffyn, yn gwrthwynebu Boris Johnson.

Dywed Paul Brand, gohebydd gwleidyddol ITV, ar Twitter bod un aelod seneddol yn honni bod y chwipiaid wedi gorchymyn Bernard Jenkin, cadeirydd Pwyllgor Cyswllt Tŷ’r Cyffredin, i eithrio’r ddau o’r pwyllgor.

Ac mae aelod seneddol arall wedi dweud mai “stopio aelodau seneddol Ceidwadol rhag gofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog yw’r normal newydd”.