George Osborne
Cafodd economi’r DU hwb heddiw ar ôl i ffigurau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ddangos bod yr economi wedi tyfu’n gyflymach na’r disgwyl yn y tri mis hyd at ddiwedd mis Medi.

Roedd GDP wedi cynyddu 0.5%, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn y chwarter blaenorol, yn ôl ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd economegwyr wedi darogan cynnydd o 0.3% a 0.4%. Fe fydd y ffigurau yn lleddfu pryderon am dŵf yr economi, er bod y cynnydd yn dal yn is ar gyfartaledd.  Ac mae economegwyr yn darogan y bydd y ffigurau yn gostwng yn y chwarter nesaf oherwydd y problemau yng ngwledydd yr ewro.

Dywedodd y Canghellor George Osborne bod y ffigurau yn dangos bod yr economi yn gwella ond bod problemau gyda’r ewro wedi gwneud y sefyllfa’n anoddach.

Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd llefarydd  Trysorlys y Blaid Lafur yng Nghymru Owen Smith AS nad oedd modd rhoi “sbin” ar y ffigurau a’u bod yn dystiolaeth bod yr economi yn aros yn ei unfan o dan y Toriaid.

Yn gefnlen i’r ystadegau, meddai, mae diweithdra wedi  cynyddu, prisau’n codi a chyflogau’n cael eu gwasgu.