Mae is-weinidog yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymddiswyddo ar ôl i Dominic Cummings, prif ymgynghorydd y Prif Weinidog Boris Johnson, deithio 260 o filltiroedd yn groes i gyfyngiadau’r coronafeirws.

Heddiw (dydd Mawrth, Mai 26), mae Douglas Ross, is-Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, yn dweud ei fod yn ymddiswyddo ar ôl clywed ymdrech Dominic Cummings i amddiffyn teithio o Lundain i Durham gyda’i deulu yn ystod y gwarchae.

Dywed na allai ddweud wrth ei etholwyr fod Dominic Cummings wedi bihafio’n briodol.

Doedd ei ddehongliad o’r rheolau “ddim yn cael ei rannu gan y mwyafrif o bobol,” meddai mewn datganiad.

“Mae gen i etholwyr sydd ddim wedi gallu ffarwelio gyda pherthnasau; teuluoedd oedd ddim yn gallu galaru gyda’i gilydd; pobol wnaeth ddim ymweld â pherthnasau oherwydd eu bod yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth,” meddai.

“Alla i ddim deud wrthyn nhw eu bod nhw oll yn anghywir a bod un ymgynghorydd i’r Llywodraeth yn gywir.

“Rwyf yn edrych ymlaen at sefyll dros bobol Moray o’r meinciau cefn.”