Roedd ymateb Boris Johnson i “esboniad rhesymol” Dominic Cummings, ei brif ymgynghorydd, am ei daith o Lundain i Durham wedi siomi’r cyn-arweinydd Ceidwadol, Michael Howard.

Fe fu’r gwleidydd Torïaidd, sy’n enedigol o Lanelli, yn siarad â’r BBC fore heddiw (dydd Mawrth, Mai 26) yn dilyn datganiad Dominic Cummings o erddi Downing Street ddoe (dydd Llun, Mai 25).

Fe ddaeth i’r amlwg fod Dominic Cummings wedi teithio 260 o filltiroedd yn groes i gyfyngiadau’r coronafeirws, gan ddweud bod rhesymau teuluol am y daith, gyda fe, ei wraig a’u mab wedi bod yn sâl.

Ond mae Boris Johnson wedi amddiffyn ei ymgynghorydd, gan wrthod gael ei dynnu i mewn i’r ffrae.

“Fel y dywedodd Michael Gove ar eich rhaglen yn gynharach, bydd pawb yn penderfynu drosto’i hun,” meddai.

“Dw i yn credu ei fod e wedi rhoi esboniad rhesymol.

“A bod yn onest, ces i fy siomi braidd gan yr hyn ddywedodd y prif weinidog ddydd Sul, oherwydd ro’n i’n meddwl fod angen esboniad llawn ar bobol ac atebion i’r holl gwestiynau oedd wedi cael eu codi.

“Ond dw i’n credu eu bod nhw wedi cael yr esboniad yna ddoe, dw i’n credu bod Dominic Cummings wedi ateb cwestiynau am fwy nag awr, cafodd ei groesholi’n drylwyr.”