Mae nifer o aelodau seneddol Ceidwadol yn galw ar Boris Johnson i ddiswyddo Dominic Cummings.

Mae pwysau ar y prif weinidog i weithredu yn erbyn ei brif ymgynghorydd ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi teithio i Durham ddwywaith yn groes i gyfyngiadau teithio’r coronafeirws.

Daeth yr ail daith ddiwrnodau’n unig ar ôl y daith gyntaf, ond mae’n honni ei fod e wedi mynd yno er mwyn i’w deulu warchod ei blant gan ei fod e a’i wraig yn sâl â’r feirws.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn wfftio adroddiadau am yr ail daith, ac mae Boris Johnson wedi datgan ei gefnogaeth i Dominic Cummings wrth i Downing Street ddweud nad ydyn nhw am “wastraffu amser” yn ymateb i’r honiadau gan “bapurau newydd sy’n ymgyrchu”.

Ymhlith y rhai sy’n galw am ei ddiswyddo mae Steve Baker, sy’n aelod o’r Pwyllgor 1922.

“Os nad yw e’n ymddiswyddo, byddwn ni’n parhau i losgi trwy gyfalaf gwleidyddol Boris ar raddfa na allwn ni mo’i fforddio ynghanol yr argyfwng hwn,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky.

“Mae’n amlwg iawn fod Dominic wedi teithio tra bod pawb arall yn deall fod sloganau Dominic yn golygu ‘arhoswch gartref, amddiffynnwch y Gwasanaeth Iechyd, achubwch fywydau’.”

Yn ôl Damian Collins, aelod seneddol Ceidwadol arall, “mae gan Dominic Cummings hanes o gredu nad yw’r rheolau’n berthnasol iddo fe a thrin y craffu ddylai ddod i unrhyw un mewn swydd o awdurdod â dirmyg.

“Byddai’r Llywodraeth yn well hebddo fe.”

Amddiffyn Dominic Cummings

Ond mae nifer o aelodau blaenllaw o Lywodraeth Prydain yn parhau i amddiffyn Dominic Cummings.

Yn eu plith mae Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth oedd wedi gorfod wynebu nifer o gwestiynau yn ystod y gynhadledd ddyddiol ddoe (dydd Sadwrn, Mai 23).

Ond mae’n cyfaddef nad oes ganddo fe’r manylion i gyd wrth law er mwyn gallu ateb cwestiynau am y sefyllfa, yn dilyn adroddiadau bod Dominic Cummings wedi ymweld â Barnard Castle, 30 milltir i ffwrdd o Durham, ar ôl teithio o Lundain.

“Dw i’n ofni nad ydw i’n gwybod [am Barnard Castle] ond os oedd y dyddiad hwnnw’n gywir, fe fyddai wedi bod y tu allan i’r cyfnod 14 diwrnod [o ynysu],” meddai Grant Shapps wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Ond dw i’n ofni nad oes gen i’r wybodaeth am hynny.

“Ond dw i’n gwybod nad yw’n wir ei fod e wedi teithio’n ôl ac ymlaen, oedd yn ymddangos yn rhan fawr o’r straeon welais i yn y papurau heddiw.”

Ond wrth siarad ag Andrew Marr ar y BBC, mae Grant Shapps wedi dweud na all plentyn pedair oed ofalu amdano fe ei hun, sef y rheswm gafodd ei roi am deithio i Durham, lle mae teulu gwraig Dominic Cummings yn byw.

“All plentyn pedair oed ddim bwydo’i hun, all plentyn pedair oed ddim rhoi bath iddo fe’i hun a newid ei ddillad, felly mae’n amlwg eu bod nhw eisiau rhoi mesurau yn eu lle.”

Daw sylwadau Grant Shapps ar ôl i Jenny Harries, prif swyddog meddygol Lloegr, ddweud na ddylai neb deithio oni bai bod bywydau mewn perygl.