Mae pryderon y bydd ardaloedd sy’n gyrchfannau poblogaidd i ymwelwyr yn Lloegr o dan bwysau mawr y penwythnos yma.

Yn dilyn llacio rheoliadau’r coronafeirws yr wythnos ddiwethaf, does dim cyfyngiadau ar pa mor bell y gall pobl deithio i gefn gwlad, parciau cenedlaethol a thraethau yn Lloegr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Hastings yn Sussex, wedi cyhoeddi fod yr ardal “ar gau i ymwelwyr o’r tu allan i’r dref”. Mae Cyngor Sefton ar Lannau Mersi hefyd wedi lansio ymgyrch “Wish you weren’t here!” i annog pobl i gadw draw o draethau gogledd-orllewin Lloegr.

Mae Cyngor Sir Cernyw yn dweud na ddylai pobl fod yn aros ar wyliau yno ac y dylen nhw ddychwelyd i’w ‘prif breswylfa’ bob nos.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn pwyso ar bobl ledled Lloegr i aros adref a chrwydro llecynnau gwyrdd ac ardaloedd gwledig lleol yn hytrach na theithio ymhell y penwythnos yma.