Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson o dan bwysau i sacio ei brif ymgynghorydd Dominic Cummings.

Roedd yr ymgynghorydd dadleuol wedi torri rheoliadau gwarchae’r coronafeirws trwy deithio 260 o filltiroedd i gartref ei rieni er ei fod ef ei hun yn dioddef o’r haint ar y pryd.

Daw’r galwadau ar iddo ymddiswyddo wrth i’r cyhoedd wynebu gŵyl banc arall wedi eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Yn ôl ymchwiliad ar y cyd gan y Daily Mirror a’r Guardian, roedd Dominic Cummings wedi gadael Llundain ar gychwyn y gwarchae i deithio i Durham.

Mewn datganiad, dywedodd heddlu Durham:

“Ddydd Mawrth, 31 Mawrth, cafodd ein swyddogion adroddiadau am unigolyn a oedd wedi teithio o Lundain i Durham a’i fod yn aros mewn cyfeiriad yn y ddinas.

“Fe wnaeth perchnogion yr eiddo gadarnhau bod yr unigolyn hwnnw yn bresennol a’i fod yn hunan-ynysu mewn rhan o’r tŷ.

“Yn unol â chanllawiau cenedlaethol yr heddlu, esboniodd plismyn i’r teulu y trefniadau ynghylch canllawiau hunan-ynysu ac ailadrodd y cyngor priodol ynghylch teithio hanfodol.”

Dywedodd y cyn-AS Ceidwadol David Lidington, a oedd yn ddirprwy brifweinidog answyddogol o dan Theresa May fod y newyddion yn codi cwestiynau difrifol y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog eu hateb.

“Mae stori fel hon am effeithio ar barodrwydd y cyhoedd i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth yn gyffredinol,” meddai.

Dywedodd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford, fod safle Dominic Cummings yn ‘gwbl anghynaliadwy’.

“Rhaid iddo ymddiswyddo neu gael ei sacio,” meddai.