Bu i Lywodraeth Prydain fenthyg £62.1 biliwn fis Ebrill, y swm mwyaf o arian ar gyfer unrhyw fis sydd ar record, yn ôl ffigyrau newydd.

Cafodd yr angen i fenthyca ei achosi gan wariant trwm yn sgil y coronafeirws, gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud fod benthyciadau’r sector gyhoeddus, ac eithrio banciau sy’n eiddo’r wladwriaeth, £51.1 biliwn yn uwch na’r un mis flwyddyn ynghynt.

Mae’r ffigwr hwn yn sylweddol uwch nag oedd dadansoddwyr wedi ei ddarogan, gyda chonsensws o economegwyr wedi awgrymu y byddai’r ffigwr yn £30.7 biliwn ar gyfer Ebrill.

Daw hyn wedi i’r Canghellor Rishi Sunak gynyddu cefnogaeth i fusnesau a gweithwyr, ar ôl i ran helaeth o’r economi orfod dod i stop yn sgil gwarchae’r coronafeirws.

Llai yn talu treth

Mae’n debyg fod gostyngiad mewn derbynebau treth hefyd wedi cyfrannu at y cynnydd mewn benthyg, gyda derbynebau’r llywodraeth yn disgyn 26.5 % am y mis o’i gymharu ag Ebrill 2019.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi rhybuddio y gallai ei amcangyfrif ar gyfer Ebrill gael ei adolygu, wrth i wir effaith y pandemig ddod yn fwy clir.

O ganlyniad i’r cynnydd mewn benthyg, cododd dyled y sector gyhoeddus i £1,887.6 biliwn erbyn diwedd mis Ebrill, sydd £118.4 biliwn yn uwch nag Ebrill 2019.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y Llywodraeth wedi benthyg £62.7 biliwn dros y 12 mis tan ddiwedd Mawrth, sy’n cynrychioli cynnydd o £22.5 biliwn o’r flwyddyn gynt.