Yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Mai 20) addawodd Boris Johnson y bydd gan y Deyrnas Unedig 25,000 o dracwyr erbyn y cyntaf o Fehefin.

Doedd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, ddim yn teimlo fod y Llywodraeth wedi tracio’n effeithio dros gyfnod o bron i 10 wythnos.

“Mae 8,000 o farwolaethau coronaferiws wedi bod yn yr Almaen, a 300 yn Ne Corea… o’i gymharu â’r [hyn sy’n digwydd yn y] Deyrnas Unedig. Er bod dros ddwy filiwn o brofion wedi cael eu cynnal – does dim math o dracio wedi cael ei gynnal ers Mawrth 12.

“Mae hynny’n bron i 10 wythnos heb dracio effeithiol mewn cyfnod hanfodol. Mae hyn yn dwll enfawr yn ein hamddiffynfeydd, yn tydi Brif Weinidog?”

Atebodd Boris Johnson drwy ddweud ei fod yn “hyderus” y bydd gan y Deyrnas Unedig system profi a thracio fydd yn caniatáu’r wlad i wneud “cynnydd.”

“Mae gennym 24,000 o dracwyr yn barod, ac erbyn Mehefin y cyntaf bydd gennym 25,000.”

Y Gordal Iechyd i Fewnfudwyr

Yn nes ymlaen, gwrthododd Boris Johnson alwadau i wneud newidiadau i’r Gordal Iechyd i Fewnfudwyr o ran gweithwyr y GIG o dramor, gan ddweud wrth y Tŷ: “Mae’n rhaid i ni edrych ar y realiti – mae [y GIG] yn wasanaeth cenedlaethol gwych, mae’n sefydliad cenedlaethol, mae angen cyllid arno ac mae’r cyfraniadau yna’n ein helpu i godi oddeutu £900 miliwn*, ac mae’n anodd iawn ffeindio ffynonellau eraill yn yr amgylchiadau presennol.”

Dywedodd Syr Keir Starmer ei fod yn “siomedig” gan fod y Prif Weinidog yn ymwybodol o pa mor sensitif yw’r mater, gan fynd ymlaen i bwyntio allan bod y gordal a godir ar y mewnfudwyr yn £400 y flwyddyn ar hyn o bryd ac yn codi i £624 fis Hydref.

“Byddai’n rhaid i weithiwr gofal sy’n derbyn cyflog byw cenedlaethol weithio 70 awr i dalu’r ffi,” meddai.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai’n cynnig gwelliant i’r Ddeddf Mewnfudo i eithrio gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr gofal o’r gordal.

Dim cywilydd?

Beirniadodd arweinydd yr SNP yn Nhŷ’r Cyffredin, Ian Blackford, driniaeth y Llywodraeth o weithwyr gofal iechyd yn ei Bil Mewnfudo.

“Ddydd Llun, gorchmynnodd y Prif Weinidog ei Aelodau Seneddol i bleidleisio am Ddeddf Mewnfudo sy’n diffinio nifer o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd a’r sector gofal fel ‘gweithwyr sgil isel’, meddai.

“O ystyried eu haberth, Brif Weinidog, oes ganddo ddim cywilydd o sut mae’r Llywodraeth yn trin gweithwyr iechyd gofal?”

Atebodd Boris Johnson drwy ddweud: “Mae hon yn Llywodraeth sy’n gwerthfawrogi’r gwaith mae pawb yn ein Gwasanaeth Iechyd, ein sector gofal, ac ar draws y gymuned gyfan, yn ei wneud.”

[* Mae bellach yn glir nad ffigur blynyddol yw hwn, ond ffigur dros gyfnod o bedair blynedd (£917 miliwn o 2015/16-2018/19)]