Mae polisi cwarantîn 14 diwrnod Llywodraeth Prydain yn “chwerthinllyd”, yn ôl prif weithredwr Ryanair.

Wrth i weinidogion gnoi cil ar sut i ganiatáu i deithwyr symud rhwng gwledydd heb fod angen cwarantîn unwaith fydd y coronafeirws dan reolaeth, mae Michael O’Leary wedi beirniadu eu cynlluniau yn llym.

Dywed Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, y bydd rheol cwarantîn 14 diwrnod ar gyfer y rhai sy’n dod i mewn i Brydain yn cael ei chyflwyno o fis nesaf.

Ond fe ddatgelodd fod “trafodaethau ar y gweill” ynghylch pa wledydd y gallan nhw eu heithrio o’r drefn yn y dyfodol, gan gyfeirio at y syniad o “bontydd awyr” sy’n cael eu defnyddio fel arfer i gyfeirio at hediadau milwrol dros dir y gelyn.

Mae’n bosibl y gallai gwledydd â lefelau is o heintiau, fel Awstralia, Seland Newydd a Gwlad Groeg, gael eu heithrio o’r rheolau llym yma.

‘Amhosibl’

Ond mae Michael O’Leary wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Prydain.

Er bod y llywodraeth yn honni na fydd yna wyliau haf fel yr arfer eleni, mae Michael O’Leary yn wfftio’r awgrymu na fyddai hyn yn amharu ar ei fwriad o ailddechrau hedfan ym mis Gorffennaf.

Mae’n dweud bod y polisi mor “ddiffygiol” nes ei fod yn amhosib i’w orfodi, ac mi fydd y cyhoedd yn syml iawn yn ei “anwybyddu”.

Mae’n mynnu bod y llywodraeth yn “gwneud pethau wrth fynd ymlaen” ac mai masgiau wyneb yw’r ffordd orau o ddiogelu’r cyhoedd sy’n teithio, er bod llawer o wyddonwyr yn dweud nad ydyn nhw’n effeithiol iawn.

‘Diffygiol’

Ond dywedodd Michael O’Leary wrth raglen Today ar BBC Radio 4 fod y cynlluniau yn rhai nad oes modd eu gweithredu na’u rheoli.

“Bydd pobl, yn syml, yn anwybyddu rhywbeth sydd mor anobeithiol o ddiffygiol,” meddai.

“Beth am gael rhai mesurau effeithiol fel masgiau wyneb?

“Y cyfan rydych chi’n ei gael allan o Lywodraeth Prydain yw ‘dydyn ni ddim yn gwybod’.

“Mae’n chwerthinllyd fod y llywodraeth yma yn gallu cyflwyno unrhyw gynlluniau ar gyfer cwarantîn sydd am fod yn llym ac yn cael ei orfodi’n llawn…

“Mae’n hurt a does dim modd ei weithredu. Does gennych chi ddim digon o heddlu ym Mhrydain.

“Does dim sail feddygol na gwyddonol i warchae am bythefnos beth bynnag. Os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth sy’n effeithiol, gwisgwch fygydau.”

Dywed nad oes gan y polisi “unrhyw hygrededd” ac mae’n rhagweld y bydd yn cael ei ddileu erbyn mis Mehefin.