Bydd busnesau’n gallu elwa o fenthyciadau uwch o dan y cynllun benthyciadau ymyrraeth busnesau mawr coronafirws (CLBILS),  yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain heddiw (dydd Mawrth, Mai 19).

Bydd uchafswm y benthyciad sydd ar gael o dan y cynllun yn cynyddu o £50m i £200m er mwyn helpu i sicrhau bod gan y cwmnïau mawr hynny nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer Cyfleuster Ariannu Corfforaethol Covid Banc Lloegr ddigon o arian i gwrdd ag anghenion eu llif ariannol yn ystod y cyfnod yma.

Bydd y benthyciadau estynedig, a gafodd eu cyflwyno yn dilyn trafodaethau gyda benthycwyr a grwpiau busnes, ar gael o Mai 26.

Mae busnesau wedi elwa o fwy na £32bn mewn benthyciadau a gwarantau i gefnogi eu llif arian yn ystod yr argyfwng.

Mae hyn yn cynnwys:

  • 268,000 o fenthyciadau Bounce Back gwerth £8.3bn
  • 36,000 o fenthyciadau gwerth dros £6bn drwy gynllun benthyciadau ymyrraeth busnes coronafeirws
  • £359m trwy gynllun benthyciadau ymyrraeth busnes mawr coronafirws
  • ynghyd â £18.7bn drwy’r CCFF.

Busnesau o bob maint

“Rydyn ni’n benderfynol o gefnogi busnesau o bob maint drwy gydol yr argyfwng hwn,” meddai John Glen, Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys.

“Ac mae ein benthyciadau a’n gwarantau eisoes wedi darparu dros £32bn i filoedd o gwmnïau.

“Heddiw, rydyn ni’n cynyddu uchafswm y benthyciad i £200m er mwyn sicrhau bod cwmnïau’n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”