Roedd hawliadau diweithdra wedi codi mwy na 69% ym mis Ebrill wedi i warchae’r coronafeirws gydio yn y farchnad waith, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod hawliadau Credyd Cynhwysol wedi codi yn ystod y mis o 856,000 i 2.1m.

Dywed ystadegwyr fod amcangyfrifon ar gyfer mis Ebrill yn nodi bod nifer y gweithwyr cyflogedig wedi disgyn 1.6% o’i gymharu â mis Mawrth, wrth i gwmnïau ddechrau teimlo effaith y gwarchae.

Cynyddodd nifer y swyddi gwag o 170,000 i 637,000 yn ystod y tri mis hyd at Ebrill o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi datgelu bod diweithdra  wedi cynyddu o 50,000 i 1.35m yn y tri mis tan fis Mawrth, wrth i effeithiau’r pandemig gael eu teimlo yng ngwledydd Prydain am y tro cyntaf.

“Er nad ydyn nhw ond yn trafod wythnosau cynta’r gwarchae, mae ein ffigurau yn dangos bod Covid-19 yn cael effaith fawr ar y farchnad waith,” meddai Jonathan Athow o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Hyd yn oed cyn y gwarchae, roedd y coronafeirws yn bygwth record swyddi’r Deyrnas Unedig, a dyw’r amcangyfrifon cychwynnol ar gyfer mis Ebrill ddim yn addawol,” meddai Tej Parikh, prif economegydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr.