Archesgob Caergaint
Fe fydd protestwyr tu allan i Gadeirlan Sant Paul yn Llundain heddiw yn cael gorchymyn i symud o’r safle neu wynebu achos cyfreithiol.

Fe fydd y protestwyr, sy’n gwrthwynebu cyfalafiaeth, yn derbyn llythyr gan Gorfforaeth Dinas Llundain yn eu rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw symud o fewn 48 awr neu wynebu achos cyfreithiol yn yr Uchel Lys i’w symud o’r safle.

Ddoe, fe ymddiswyddodd deon Cadeirlan Sant Paul yn sgil y protestiadau.

Dywedodd y Gwir Barchedig Graeme Knowles na allai barhau yn ei swydd oherwydd y feirniadaeth roedd y gadeirlan yn ei wynebu yn y cyfryngau.

Graeme Knowles yw’r diweddara i ymddiswyddo ar ôl i  Ganghellor Sant Paul, Y Parchedig Ganon Giles Fraser, a chaplan rhan-amser, Fraser Dyer, gyhoeddi eu bod nhw’n ymddiswyddo. Roeddan nhw’n dweud eu bod yn rhoi’r gorau i’w swyddi oherwydd y ffordd roedd y gadeirlan wedi delio â’r ddadl ynglŷn â’r protestwyr. Mae’r brotest wedi achosi rhwyg rhwng aelodau o awdudod y Gadeirlan.

Cafodd y gadeirlan ei chau am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd ar ôl i brotestwyr wersylla tu allan, oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch.

Dywedodd y deon nad oedd yn benderfyniad hawdd i ymddiswyddo ond, ers i’r protestwyr gyrraedd, roedd pawb wedi bod dan bwysau mawr.

Dywedodd Archesgob Caergaint bod ei ymddiswyddiad yn “newyddion trist iawn.” Mae na alw bellach ar Dr Rowan Williams i ymyrryd yn y ddadl.