Mae Ryanair wedi dweud eu bod yn disgwyl i nifer y teithwyr haneru yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol wrth i’r cwmni hedfan rybuddio ei fod yn wynebu blwyddyn “anodd” yn dilyn effaith y cornafeirws.

Daw hyn wrth i’r cwmni gyhoeddi cynnydd o 13% mewn elw i £890 miliwn am y flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth ond mae disgwyl iddyn nhw weld colledion sylweddol yn y chwarter yma.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr yn ystod y flwyddyn lawn ond hyd yma wedi gweithredu llai na 1% o’u hediadau ers dechrau mis Ebrill.

Mae’r cwmni wedi dweud wrth fuddsoddwyr bod ganddyn nhw ddigon o arian wrth gefn i wrthsefyll effeithiau Covid-19 “a dod allan yn gryfach pan fydd yr argyfwng wedi gwella.”

Ar hyn o bryd mae Ryanair yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â chau safleoedd, cael gwared a hyd at 3,000 o swyddi, yn bennaf ymhlith peilotiaid a chriw caban, a thorri cyflogau wrth iddyn nhw geisio cadw eu costau’n isel yn wyneb y coronafeirws.

Serch hynny maen nhw’n disgwyl cyhoeddi colledion o fwy na £178 miliwn am y chwarter hyd at ddiwedd mis Mehefin.