Mae undebau yn galw am gyflwyno mesurau diogelwch wrth i fwy o bobl ddychwelyd i swyddfeydd, ffatrïoedd a safleoedd adeiladu’r wythnos hon.
Bydd nifer gwasanaethau’r rheilffyrdd a’r Tiwb yn Llundain yn cynyddu o heddiw (dydd Llun, Mai 18), er bod Llywodraeth San Steffan wedi annog gweithwyr i beidio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Dywed undebau fod hyn yn anfon negeseuon cymysg i filiynau o weithwyr, gyda nifer ohonynt dal yn ansicr os yw’n ddiogel iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith.
Mae undebau wedi dweud wrth aelodau y byddan nhw’n cael eu cefnogi os ydyn nhw’n gwrthod gweithio ar sail diogelwch.
Mae’r undeb gyrwyr trenau, Aslef wedi cynghori eu haelodau i wrthod gweithio mewn amgylchiadau os ydyn nhw’n teimlo eu bod mewn perygl.
“Er gwaethaf ein gwrthwynebiadau, mae system danddaearol Llundain wedi mynnu fod gyrwyr trenau yn dychwelyd i weithio o dan yr un amgylchiadau a chyn yr argyfwng coronafeirws,” meddai trefnydd Aslef ar system danddaearol Llundain, Finn Brennan.
“Mae 42 o weithwyr Trafnidiaeth Llundain eisoes wedi colli eu bywydau i’r afiechyd hwn,” ychwanegodd.