Gallai Boris Johnson beryglu dyfodol y Deyrnas Unedig pe na bai’n gwrando ar bryderon rhanbarthau am lacio cyfyngiadau’r coronafeirws, yn ôl Andy Burnham.

Daw rhybudd Maer Manceinion wrth i bôl piniwn awgrymu bod gan brif weinidog Prydain lai o gefnogaeth o du’r cyhoedd erbyn hyn yn sgil y ffordd mae e a Llywodraeth Prydain wedi mynd i’r afael â’r feirws.

Dim ond 39% o bobol sy’n cytuno â pholisi Boris Johnson, meddai’r pôl gan Opinium, tra bod 42% yn ei wrthwynebu’n llwyr.

Yn ôl Andy Burnham, dydy’r prif weinidog ddim wedi trafod llacio’r cyfyngiadau gydag arweinwyr awdurdodau lleol, ac mae’n dweud bod cefnu ar y neges i bobol aros gartref wedi digwydd “yn rhy gynnar”.

“Ar noswyl yr wythnos waith newydd, roedd y prif weinidog ar y teledu’n ‘annog’ pobol i ddychwelyd i’r gwaith,” meddai mewn erthygl yn yr Observer.

“Er y byddai hynny’n amlwg yn rhoi mwy o geir ar y ffyrdd a phobol ar dramiau, doedd neb yn y Llywodraeth yn teimlo’i bod hi’n bwysig dweud wrth y dinasoedd fyddai’n gorfod ymdopi â hynny.

“Mae’n bosib fod y pecyn o hawliau sy’n peri syndod yn iawn i’r de-ddwyrain, o ystyried y cwymp mewn achosion yno.

“Ond y teimlad ym mêr fy esgyrn oedd ei bod hi’n rhy fuan i’r gogledd. Yn sicr, roedd gollwng y neges arhoswch gartref yn sydyn yn teimlo’n rhy gynnar.

“Os yw’r Llywodraeth yn parhau ar yr un trywydd, disgwyliwch weld hollt hyd yn oed yn fwy mewn undod cenedlaethol.

“Bydd gwahanol lefydd yn mabwysiadu eu negeseuon a’u polisïau eu hunain.”