Cadeirlan Sant Paul
Mae deon Cadeirlan Sant Paul yn Llundain wedi ymddiswyddo yn sgil y protestiadau gwrth-gyfalafiaeth y tu allan i’r gadeirlan hanesyddol.

Dywedodd y Gwir Barchedig Graeme Knowles na allai barhau yn ei swydd oherwydd y feirniadaeth o’r gadeirlan yn y cyfryngau.

Fe yw’r diweddara i ymddiswyddo ar ôl i  Ganghellor Sant Paul, Y Parchedig Ganon Giles Fraser, a chaplan rhan-amser, Fraser Dyer, gyhoeddi eu bod nhw’n ymddiswyddo. Roeddan nhw’n dweud eu bod yn rhoi’r gorau i’w swyddi oherwydd y ffordd roedd y gadeirlan wedi delio â’r ddadl ynglŷn â’r protestwyr.

Cafodd y gadeirlan ei chau am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd ar ôl i brotestwyr wersylla tu allan, oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch.

Dywedodd y deon nad oedd yn benderfyniad hawdd i ymddiswyddo ond, ers i’r protestwyr gyrraedd, roedd pawb wedi bod dan bwysau mawr.

Dywedodd Archesgob Caergaint bod ei ymddiswyddiad yn “newyddion trist iawn”.