Mae yna “risg ddifrifol” bod cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn mynd i “ddilyn llwybrau gwahanol” wrth ymateb i argyfwng Covid-19.

Dyna mae Keir Starmer, Arweinydd y Blaid Lafur, wedi ei ddweud ar drothwy dau gyfarfod cyhoeddus â chymunedau yng Nghymru.

Yr wythnos ddiwethaf daeth i’r amlwg y byddai mesurau Covid-19 yn cael eu llacio cryn dipyn yn Lloegr, ond y byddan nhw’n parhau’n llym yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ac yn dilyn y datblygiadau yma mae Keir Starmer wedi galw ar Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i gydweithio yn fwy â Llywodraeth Cymru.

“Llwybrau gwahanol”

“Yn sgil cyhoeddi strategaeth y Prif Weinidog, yr wythnos ddiwethaf, i ddod allan o’r argyfwng, dw i’n poeni’n fawr am fethiant y consensws rhwng y pedair cenedl,” meddai.

“Mae yna risg ddifrifol, a pherygl go iawn, yn awr [y bydd y cenhedloedd] yn dilyn llwybrau gwahanol.

“Dyna pam y dylai’r Prif Weinidog gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn ailadeiladu consensws wrth i ni symud i’r cyfnod nesa’.”

Cyfarfodydd Zoom

Yn ddiweddarach heddiw (Dydd Iau, Mai 14) bydd modd i bobol yn Ne Clwyd a Wrecsam fynd ar Zoom – y rhaglen fideo-gynadledda – a holi Arweinydd y Blaid Lafur.

Bydd y ‘cyfarfodydd’ yma yn para am awr yr un, ac mae modd i unrhyw un o’r cymunedau gymryd rhan – boed yn gefnogwr Llafur ai peidio. Rhaid cofrestru er mwyn cymryd rhan.

Mae Keir Starmer wedi dweud ei fod eisiau “sgwrs onest â phobol Cymru” ynghylch sut all Llafur ennill pleidleiswyr a gefnodd arnyn nhw yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.