Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i ddyn gael ei drywanu i farwolaeth yn ne Llundain.

Cafodd yr Heddlu Metropolitan eu galw i Southwark toc cyn 5.30yh ddydd Mercher (Mai 13) yn dilyn adroddiadau am ffrwgwd rhwng nifer o ddynion.

Cafwyd hyd i ddyn, y credir sy’n 19 oed, wedi’i drywanu.

Bu’r gwasanaethau brys, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Llundain, yn rhoi triniaeth i’r dyn ond bu farw yn y fan a’r lle.

Cafodd tri dyn a dynes eu harestio ger y safle ac maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.