Dylai’r dulliau gwahanol o fynd i’r afael â’r coronafeirws yn y gwledydd datganoledig fod “dros dro yn unig”, yn ôl Boris Johnson.

Mae prif weinidog Prydain yn pwysleisio fod angen gweithredu “fel un Deyrnas Unedig” yn ystod y gwarchae.

Ond mae’n cyfaddef fod angen “ymateb hyblyg” ym mhob un o’r gwledydd ar wahân ar hyn o bryd.

Daw ei neges ar ôl iddo amlinellu neges “gwyliadwraeth” Llywodraeth Prydain, tra bod llywodraethau Cymru a’r Alban am gadw at y neges o “aros gartref”.

Mae’r drefn bresennol, meddai Boris Johnson, “yn amodol ac yn ddibynnol, bob amser, ar synnwyr cyffredin ac ymlyniad pobol Prydain ac ar asesu’r data’n barhaus”.

“Mae’n bosib fydd angen i rannau o’r Deyrnas Unedig aros dan warchae am fwy o amser, ond dylai unrhyw amrywiaeth fod dros dro yn unig oherwydd, fel prif weinidog y Deyrnas Unedig, does gen i ddim amheuaeth fod rhaid i ni drechu’r bygythiad hwn a wynebu heriau adferiad gyda’n gilydd.”

SNP yn yr Alban

Fe fu’r SNP yn yr Alban yn galw ar Boris Johnson i dderbyn y byddai’r wlad yn parhau i ddilyn y neges wreiddiol y dylid “aros gartref”.

Mae Ian Blackford, arweinydd y blaid yn San Steffan, yn galw am “egluder”, gan ddweud y gall y llywodraethau eraill weithredu’n “gyfreithlon” wrth amrywio’r neges.

Ac mae’n dweud ymhellach nad oedd y gwledydd eraill wedi cael gwybod am slogan newydd Llywodraeth Prydain ynghylch bod yn “wyliadwrus” cyn ei weld yn y papurau newydd.

Mae’n galw am sicrwydd na fydd y slogan ar waith yn yr un o’r gwledydd eraill heb gydsyniad y llywodraethau gwahanol.

Ymateb Boris Johnson

“Byddwn i’n dweud wrtho, yn syml iawn, fod y Deyrnas Unedig – diolch i gydweithrediad dw i wedi’i gael nid yn unig gydag aelodau anrhydeddus gyferbyn ond ar draws y pedair gwlad – wedi gallu gwneud cynnydd sylweddol gyda’n gilydd,” meddai Boris Johnson wrth ymateb.

“Dw i’n credu bod y rhan fwyaf o bobol yn deall, mewn gwirionedd, lle’r ydyn ni wrth frwydro yn erbyn yr afiechyd yma.

“Mae’r rhan fwyaf o bobol yn edrych ar y realiti, realiti ymarferol y cyngor rydyn ni’n ei roi heddiw, ac yn gallu gweld, ar y cyfan, fod yna lawer iawn mwy sy’n uno’r Deyrnas Unedig nag sy’n ei hollti.”