Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, ac Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi cytuno na fydd mesurau cwarantin yn berthnasol i bobol sy’n teithio rhwng Ffrainc a’r Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu cyhoeddi heddiw ynglŷn â chynlluniau i orfodi pobl sy’n hedfan i’r Deyrnas Unedig i fod mewn cwarantin am bythefnos.

Yn ei araith nos Sul, dywedodd Boris Johnson: “I atal ymledu’r feirws o dramor, yn fuan bydd disgwyl i bobol sy’n hedfan i’r wlad hon dreulio amser mewn cwarantin.”

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing, “Yn dilyn trafodaethau rhwng y ddau arweinydd mae’r ddwy wlad wedi cytuno na fydd mesurau cwarantin yn berthnasol i deithwyr sy’n teithio o Ffrainc ar hyn o bryd.”

“Wrth i gyfradd coronafeirws ostwng yn ddomestig, siaradodd yr arweinyddion am yr angen i reoli’r risg o drosglwyddiadau newydd o dramor.

“Cytunodd y ddau i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu mesurau ffiniau priodol.

“Bydd y ddwy Lywodraeth yn cydweithio er mwyn trafod y mater dros yr wythnosau nesaf.”

Mae adroddiadau y bydd dirwyon o hyd at £1,000 i rheini sydd ddim yn dilyn y rheolau.

Ychwanegu at y dryswch

Dywedodd arbenigwr teithio cwmni Which?, Rory Boland: “Bydd y newyddion yma yn ychwanegu at y dryswch y mae teithwyr o Brydain yn ei wynebu ar hyn o bryd wrth geisio canfod a allant deithio ai peidio.”

“Mae’r sefyllfa’n anhrefnus: Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn erbyn teithio dramor yn amhenodol, ac eto mae rhai cwmnïau hedfan a chwmnïau teithio yn parhau i werthu gwyliau i bobol sy’n gadael o fewn yr wythnosau nesaf.”