Mae busnesau, undebau a’r heddlu wedi galw am eglurder ynglŷn â llacio’r cyfyngiadau i atal y coronafeirws rhag lledu, yn dilyn cyhoeddiad Boris Johnson nos Sul (Mai 10).

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gyhoeddi rhagor o fanylion heddiw (dydd Llun, Mai 11) ynglŷn â llacio’r rheolau yn raddol.

Fe fydd yn wynebu Aelodau Seneddol er mwyn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer adfer yr economi a bywydau cymdeithasol pobl yn Lloegr. Ond mae ’na alw am arweiniad clir gyda rhai yn dweud bod ei neges neithiwr wedi bod yn “ddryslyd”.

Yn ogystal, mae arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dweud y byddan nhw’n parhau gyda’u cynlluniau cyfredol.

Fe gyhoeddodd Boris Johnson neithiwr y byddai’r slogan “arhoswch adref” yn newid i “arhoswch yn wyliadwrus”. Ond dywedodd arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon nad oedd Boris Johnson wedi ymgynghori gyda nhw ac maen nhw wedi gwrthod newid y neges “arhoswch adref”.

Ail-agor ysgolion

Mewn darllediad o Downing Street nos Sul dywedodd y Prif Weinidog y gallai rhai ysgolion a rhai siopau yn Lloegr ddechrau ail-agor yn raddol yn Lloegr o Fehefin 1 os yw nifer yr achosion o Covid-19 yn gostwng.

Ychwanegodd bod pobl sydd ddim yn gallu gweithio gartref yn cael eu hannog i ddychwelyd i’w gwaith ddydd Llun ac fe fydd yn caniatáu i bobl yn Lloegr ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd o ddydd Mercher. Dywedodd y Llywodraeth y byddai tenis, chwaraeon dwr, pysgota a golff yn cael eu caniatáu os yw pobl yn cadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Ac yn Lloegr fe fydd pobl yn cael torheulo mewn parciau yn Lloegr neu sgwrsio gydag un person o gartref arall cyhyd a’u bod yn cadw 2 fetr ar wahân.

Mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu cyhoeddi heddiw ynglŷn â chynlluniau i orfodi pobl sy’n hedfan i’r Deyrnas Unedig fod mewn cwarantin am bythefnos.

“Diffyg eglurder”

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer bod ’na “ddiffyg eglurder” yn y cyhoeddiad nos Sul a bod Boris Johnson “i bob pwrpas wedi dweud wrth filiynau o bobl i ddychwelyd i’w gwaith yfory (dydd Llun) ond heb ganllawiau clir.”

Ychwanegodd: “Mae’r cyhoeddiad yn codi mwy o gwestiynau na mae’n ateb ac ry’n ni o bosib am weld Lloegr, yr Alban a Chymru yn mynd i wahanol gyfeiriad.”

Fe ddechreuodd Boris Johnson lacio’r cyfyngiadau a ddaeth i rym ar Fawrth 23 wrth i ffigurau swyddogol awgrymu bod nifer y marwolaethau yn y Deyrnas Unedig wedi cyrraedd mwy na 36,800.