Mae cwch arall yn cludo 17 o ffoaduriaid wedi cyrraedd gwledydd Prydain heddiw (dydd Sul, Mai 10).

Mae’n golygu bod cyfanswm o 244 o ffoaduriaid wedi cyrraedd y lan dros y penwythnos.

Cafwyd hyd i wyth o gychod ddydd Gwener (Mai 8), gydag un ohonyn nhw’n cludo 51 o bobol allan o gyfanswm o 145.

Ddoe (dydd Sadwrn, Mai 9), cafwyd hyd i 82 o ffoaduriaid – 70 ohonyn nhw ar y dŵr a 12 wedi cyrraedd y lan yn Dungeness.

Mae’r holl ffoaduriaid wedi’u cludo i Dover ar gyfer profion coronafeirws.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi beirniadu ymdrechion y ffoaduriaid.

Ers dechrau ymlediad y feirws ar Fawrth 23, mae o leiaf 853 o ffoaduriaid wedi ceisio croesi i wledydd Prydain.