Cyhoeddwyd heddiw (Mai 6) fod 95 o bobl ychwanegol wedi profi’n bositif am Covid-19 yma yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd i 10,764, ac mae 21 yn rhagor wedi marw ar ôl profi’n bositif am coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm nifer y marwolaethau yma i 1,044, meddai swyddogion iechyd. Mae ychydig o dan 33,000 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19 bellach wedi’u cofrestru ledled Prydain.

A hithau’n Ŵyl y Banc y penwythnos hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi atgoffa pawb i gadw at y cyfyngiadau.

“Gyda Gŵyl y Banc mis Mai ar y gweill,” meddai Dr Giri Shankar, o Iechyd Cyhoeddus Cymru, “mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa’r cyhoedd i barhau i lynu wrth gyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar deithio nad yw’n hanfodol;  carafanau, safleoedd gwersylla, gwestai, B&Bs a llety gwyliau, yn ogystal â’r mynediad cyfyngedig i’n parciau cenedlaethol.

“Rydym hefyd yn atgoffa perchnogion ail gartrefi yng Nghymru i fod yn gyfrifol ac osgoi teithio i’r cartrefi hyn nes bod y cyfyngiadau wedi’u codi.”

Llythyr agored

Mewn llythyr agored, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, a Chadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru, Carl Foulkes, hefyd wedi galw ar bobl i aros gartref dros Ŵyl y Banc.

Mae’r llythyr yn dweud yn glir nad yw teithio i ail gartref yn cael ei ystyried yn angenrheidiol fel rheol, ac y bydd unrhyw un sy’n gadael y cartref y maen nhw’n byw ynddo, neu’n aros i ffwrdd o’r cartref y maen nhw’n byw ynddo, heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.