Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn annog y gwrthbleidiau eraill i gefnogi estyniad o ddwy flynedd i gyfnod trosglwyddo Brexit yn sgil argyfwng y coronafeirws.

Mewn llythyr at arweinwyr yr holl bleidiau, dywed Ian Blackford fod angen i’r cyfnod trosglwyddo Brexit gael ei ymestyn y tu hwnt i Ragfyr 31 – rhywbeth mae Llywodraeth Prydain yn ei wrthwynebu.

“Mae rhaid i’n holl ymdrechion fynd tuag at ymateb i’r argyfwng sydd wedi cael ei achosi gan y feirws Covid-19, a dylai bod yr holl agendâu gwleidyddol eraill gael eu rhoi o’r neilltu wrth i ni roi’r flaenoriaeth i achub bywydau a gwarchod incwm pobol,” meddai.

“Yn y cyd-destun yna, rwy’n credu mai nawr yw’r foment iawn i uno fel gwrthbleidiau yn San Steffan i alw am estyniad o ddwy flynedd i gyfnod trosglwyddo Brexit.

“Byddai’r safiad cryf, unedig yn anfon neges bwerus i’n ffrindiau a’n partneriaid yn Ewrop, sy’n ffafriol i resymeg a synnwyr y cais hwn.”