Mae ap newydd y Gwasanaeth Iechyd, NHS 24, wedi cael ei lansio yn yr Alban er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i bobol ynglyn â coronafeirws.

Mae’r ap yn cynnig gwiriwr symptomau yn ogystal â’r wybodaeth a chanllawiau diweddaraf gan Wasanaeth Iechyd yr Alban a Llywodraeth yr Alban.

Cafodd yr ap ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng GIG 24 a’r asiantaeth dylunio ddigidol, xDesign.

Mae’r ap yn gysylltiedig â gwefan gwybodaeth GIG 24 nhsinform.scot, ac mae’n diweddaru gwybodaeth a chyngor yn syth o’r wefan.

“Tra mae prif ffocws yr ap yw profiad y defnyddiwr, gan fod y sefyllfa’n newid y ddyddiol roedd hi’n hanfodol bwysig ein bod yn cymryd cynnwys o’n gwefan GIG Hysbysu drwyddo i’r ap yn syth,” meddai Louise Bennie, pennaeth digidol NHS 24.

“Mae’r ap yn darparu gwiriwr symptomau dibynadwy mewn amser lle mae pobl yn boddi mewn mor o wybodaeth, ac mae’n cynnwys banc o wybodaeth cynhwysfawr a dibynadwy,”  meddai Ben Hutton, Rheolwr gyfarwyddwr xDesign.