Mae bachgen 11 oed wedi cael anafiadau a allai newid ei fywyd, yn dilyn achos o saethu mewn eiddo yn nwyrain Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw neithiwr (nos Wener, Mai 1) i ardal Upminster, lle daethon nhw o hyd i’r bachgen a dyn yn ei 40au.

Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty.

Mae lle i gredu nad yw bywyd y bachgen yn y fantol, ac fe gafodd y dyn fan anafiadau i’w ddwylo ond dydy hi ddim yn glir ai yn sgil y digwyddiad y cafodd e’r rheiny.

Mae lle i gredu hefyd fod y troseddwyr wedi dianc cyn i’r heddlu gyrraedd, ac fe fu hofrennydd yn chwilio amdanyn nhw ond does neb wedi’i arestio hyd yn hyn.