Mae cwmni ynni npower wedi cael dirwy o £2m gan y corff sy’n arolygu’r diwydiant Ofgem oherwydd y ffordd mae’r cwmni wedi delio â chwynion cwsmeriaid.

Dyma’r ail waith i un o’r cwmniau ynni mawr gael dirwy oherwydd y ffordd mae’n nhw’n delio â chwynion ar ôl i Nwy Prydain gael dirwy o £2.5miliwn ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Ofgem bod npower wedi methu â chofnodi holl fanylion y cwynion roeddan nhw wedi ei dderbyn, wedi methu â rhoi digon o wybodaeth i gwsmeriaid am wasanaeth sy’n cael ei gynnig gan yr ombwdsmon ynni ac wedi methu â rhoi’r dulliau cywir mewn lle i ddelio â chwynion.

Dywedodd Ofgem eu bod hefyd yn ymchwilio i’r ffordd mae EDF Energy yn delio â chwynion.