Mae undebau wedi addo brwydro yn erbyn cynlluniau British Airways i dorri 12,000 o swyddi.

Daw hyn yn sgil dicter yn erbyn y “penderfyniad creulon.”

Dywed swyddogion fod hyn “yn llwyr wahanol” i’r ffordd mae cwmnïau Ewropeaidd yn gweithredu wrth iddynt geisio dod o hyd i ffordd drwy’r pandemig.

Ac mae’r blaid Lafur wedi dweud y gallai’r Llywodraeth fod wedi gwneud mwy i osgoi gymaint o swyddi’n cael eu colli.

“Mae hwn yn benderfyniad creulon mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol,” meddai ysgrifennydd cyffredinol Unite, Len McCluskey.

“Mae’r gweithlu wedi gweithio’n ddiflino, a hynny mewn amgylchiadau peryglus, ar reng flaen trafnidiaeth ryngwladol.

“Dyw’r gweithwyr ddim yn haeddu cael eu gwaredu fel hyn.”

Dywed Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cysgodol Llafur yn San Steffan, Jim McMahon AS: “Dylai’r Llywodraeth fod wedi camu i mewn yn gynt a gwneud mwy i warchod eu swyddi.

“Mae’r diwydiant hedfan yn hanfodol i economi’r Deyrnas Unedig ond ni ddylai gweithwyr gael eu diswyddo gan y sawl ar y top sydd wedi elwa o’u gwaith caled.”