Mae’r nifer o droseddau cyllyll sy’n digwydd yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, gyda’r ffigurau am y llynedd yn 7% uwch na’r flwyddyn gynt.

Dangosa ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol fod troseddau sy’n cynnwys cyllell wedi codi i 45,627 am y flwyddyn at fis Rhagfyr.

Mae hyn 49% yn uwch na pan ddechreuodd ffigyrau gael ei cofnodi yn 2011.

Dyw’r ffigyrau ddim yn cynnwys Heddlu Manceinion Fwyaf, sydd yn recordio data mewn ffordd wahanol.

Mae’r nifer o ladradau treisgar – robbery – wedi codi 12% i 83,930, y nifer o lofruddiaethau wedi codi 2% i 670.

Roedd byrgleriaeth, fodd bynnag i lawr 7%, tra bod achosion o ddwyn wedi gostwng 9% i 3,402,000.