David Cameron
Fe fydd llongau sy’n hwylio dan faner Prydain yn gallu cario gwylwyr arfog er mwyn eu gwarchod rhag môr-ladron o hyn allan yn ôl y Prif Weinidog.

Dywedodd David Cameron mewn cyfweliad ar y BBC y bore yma ei fod eisiau ymateb i’r peryglon i longau sy’n hwylio oddi ar arfodir Somalia yn benodol. Cafodd 53 o longau eu herwgipio llynedd ac fe ddigwyddodd 49 o’r rhain yno.

Ychwanegodd Mr Cameron nad oes yr un llong sydd yn cario gwylwyr arfog wedi cael ei herwgipio hyd yma. Roedd wedi trafod y mater efo aelodau gwledydd y Gymanwlad yn eu cyfarfod diweddar yn Awstralia meddai, gan fod y broblem yn Somalia yn mynd o ddrwg i waeth.

Mae tua 200 o longau sy’n chwifio baner goch llongau masnach Prydain yn hwylio oddi ar arfodir Somalia yn gyson ac mae swyddogion yn credu y bydd tua 100 o’r rhain yn gwneud cais am drwydded i gyflogi gwylwyr arfog yn syth.

Cwmniau preifat fydd yn cael cyflwyno ceisiadau i gael trwyddedau gan fod y Swyddfa Dramor eisoes wedi cadarnhau na fydd yn bosibl rhyddhau’r llynges i warchod llongau masnach.

Gall y cynllun fod yn groes i gyfreithiau rhai gwledydd cyfagos. Nid yw yr Aifft yn caniatau gwylwyr arfog ar longau sy’n hwylio trwy gamlas Suez, felly fe fydd y gwylwyr yn cael caniatad i weithredu dim ond mewn dyfroedd peryglus fel y            Môr Coch a Gwlff Aden.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr dywedodd Mr Cameron y bydd yn rhaid gwneud ‘dewisiadau anodd’ o safbwynt saethu er mwyn lladd môr-ladron sy’n ymosod ar long.

“Mae’r ffaith fod llwyth o fôr-ladron yn Somalia yn gallu mynnu tâl pridwerth gan wledydd y byd a’n trefn fasnachu yn sarhad llwyr ac mae’n rhaid i weddill y byd gyd-weithio yn llawer cryfach yn erbyn hyn” meddai.

Ychwanegodd bod llawer o longau sy’n hwylio dan faneri fel Liberia, Panama a’r Bahamas eisoes yn cario gwylwyr arfog ac y dylid rhoi cymorth i wledydd fel y Seychelles a Mauritius sy’n ceisio dod a’r môr-ladron o flaen eu gwell a’u carcharu.