Cafodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei gyhuddo o ymateb yn rhy araf i’r pandemig coronafeirws gan arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, yn ei sesiwn PMQs gyntaf.

Yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, oedd yn dirprwyo i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, wrth iddo barhau i wella o’r coronafeirws.

Dim ond llond llaw o Aelodau Seneddol oedd yn Nhŷ’r Cyffredin, gyda’r mwyafrif ohonynt yn cymryd rhan mewn modd rhithiwr ar Zoom.

Cwestiynodd Syr Keir Stamer gynnydd y Llywodraeth tuag at y targed o gynnal 100,000 o brofion yn ddyddiol erbyn diwedd y mis, cyn honni fod cyfleoedd i gael cyfarpar diogelu gan gwmnïau Prydeinig wedi cael eu methu.

“Mae yna batrwm yn ymddangos fan hyn. Roeddem yn araf yn mynd mewn i lockdown, yn araf wrth brofi, yn araf ar gyfarpar diogelu a nawr yn araf am gymryd y cynigion yma gan gwmnïau Prydeinig,” meddai.

Dywedodd Dominic Raab fod y Llywodraeth yn cael ei dywys gan ymgynghorwyr gwyddonol.

Profion

Mae’r ffigyrau diweddaraf ar brofion yn dangos bod llai na hanner y profion sydd ar gael yn cael eu defnyddio, gyda llai na 20,000 o brofion yn cael eu cynnal mewn cyfnod o 24 awr.

Cwestiynodd Starmer sut yr oedd y Llywodraeth yn mynd i godi’r ffigyrau i 100,000 mewn wyth diwrnod – yn enwedig gan fod yn rhaid i staff gofal a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddreifio i safle penodol i gael eu profi.

Mae gweinidogion wedi mynnu bod y targed hwn yn mynd i gael ei gyrraedd, a dywedodd Dominic Raab: “Mae’r profion yna yn mynd i fod yn hanfodol, nid yn unig yn nhermau rheoli’r feirws ond wrth alluogi ein gwlad i symud i’r cyfnod nesaf.”

Dywedodd fod labordai symudol yn cael eu defnyddio, gyda’r fyddin yn helpu i gludo profion i lefydd lle bo’u hangen.

Cwestiynau Cymru

Yn ystod sesiwn Cwestiynau Cymru gyda’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart, cododd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts ofidion ynghylch pobol yn teithio i’w tai haf yng Nghymru.

“Mae’r ddirwy ar hyn o bryd yn £60, gan ostwng i £30. Allith o addo i mi y bydd gan yr heddlu bwerau digonol yn ystod gŵyl banc mis Mai i roi cosbau ystyrlon er mwyn rhwystro pobol rhag gwneud y siwrnai diangen yma?” gofynnodd.

Atebodd Simon Hart drwy ddweud bod yr heddlu wedi “gwneud gwaith gwych ac wedi defnyddio’r balans cywir i sicrhau bod pobol yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau.”