Mae Dug a Duges Sussex wedi dweud wrth y wasg yng ngwledydd Prydain na fyddan nhw’n cydweithio gyda nhw bellach gan eu cyhuddo o gyhoeddi straeon “ffug ac anghywir” amdanyn nhw.

Mae’r cwpl wedi anfon llythyr at olygyddion The Sun, y Daily Mail, y Daily Express a’r Daily Mirror gan eu cyhuddo o’u trin yn annheg, meddai’r BBC.

Yn ôl papur y Guardian fe fydd hyn yn golygu na fyddan nhw’n cydweithio efo’r pedwar papur newydd o hyn ymlaen.

A dywedodd y BBC na fydd swyddogion y wasg Harry a Meghan bellach yn ateb galwadau gan y papurau.

Mae’r ddau wedi camu yn ôl o’u dyletswyddau brenhinol a bellach yn byw yng Nghaliffornia.

Cyn iddyn nhw roi’r gorau i’w dyletswyddau roedden nhw wedi beirniadu’r papurau newydd yn y Deyrnas Unedig ar eu gwefan Sussexroyal.com.

Mae Meghan eisoes wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Associated Newspapers, sy’n cyhoeddi’r Mail On Sunday a MailOnline ynglŷn ag erthygl oedd wedi cyhoeddi rhannau o lythyr roedd hi wedi anfon at ei thad Thomas Markle, 75, ym mis Awst 2018.

Roedd Harry wedi disgrifio’r wasg fel “grym pwerus” mewn araith emosiynol ddiwrnod yn unig cyn iddo ddweud eu bod yn camu nôl o’u dyletswyddau brenhinol.