Mae pryderon am ddyfodol y diwydiant papurau newydd yn sgil y coronafeirws, wrth i un o weinidogion San Steffan annog pobol i “ychwanegu un peth bach” at eu rhestr siopa.

Yn ôl Oliver Dowden, yr Ysgrifennydd Diwylliant, mae’r diwydiant papurau newydd yn wynebu’r “argyfwng mwyaf erioed”, gyda llai o refeniw o hysbysebion a llai o gopïau’n cael eu gwerthu.

Mae un o’r cyhoeddwyr mwyaf, y Daily Maily and General Trust, sy’n berchen ar bapurau’r Mail, Metro a’r i wedi torri cyflogau unrhyw weithiwr sy’n ennill mwy na £40,000 y flwyddyn.

A bydd staff Reach, sy’n berchen ar y Mirror a’r Express, yn torri 10% oddi ar gyflogau staff.

Mae Oliver Dowden wedi gorchymyn brandiau i roi’r gorau i flocio hysbysebion ar erthyglau ar-lein am y coronafeirws er mwyn galluogi hysbysebion i ymddangos ar dudalennau straeon am y feirws.

Ymateb Oliver Dowden

Dywed Oliver Dowden fod gweithwyr y diwydiant papurau newydd wedi dangos “dyfalbarhad dygn” yn sgil y feirws, a bod y diwydiant yn “hanfodol” wrth gynnig gwybodaeth yn ystod yr ymlediad.

“Mae papurau newydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol dan bwysau ariannol enfawr, yn bennaf oherwydd fod hysbysebion masnachol yn gostwng ar dudalennau print a gwefannau,” meddai.

“Mae llai o alw am hysbysebion hefyd wedi cael ei waethygu gan rywbeth o’r enw blocio geiriau allweddol, lle mae hysbysebion sy’n gysylltiedig â geiriau allweddol penodol yn cael eu hatal rhag ymddangos ar wefannau’r papurau.

“Mae rhai o frandiau mwya’r Deyrnas Unedig a rhannau o’r diwydiant hysbysebion yn atal hysbysebion rhag ymddangos yn ymyl straeon newyddion yn ymwneud â’r coronafeirws.”

Mae’n dweud ymhellach y byddai tranc y diwydiant papurau newydd yn cael “effaith bellgyrhaeddiol ar ddemocratiaeth yn ein gwlad”.

“Mae papurau newydd wrth galon y cyfryngau Prydeinig ac yn hanfodol i’w gymysgedd bywiog.

“Mae pobol ar draws y wlad yn ymateb i her y coronafeirws ac rwy’n awgrymu ein bod ni gyd yn ychwanegu un peth bach at ein rhestr o bethau i’w gwneud: prynu papur newydd.”