Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod apêl gan bennaeth y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) i ystyried ymestyn y cyfnod pontio cyn Brexit.

Mae Kristalina Georgieva, rheolwr-gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol, wedi annog y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i beidio ychwanegu at yr “ansicrwydd” mae coronafeirws yn ei achosi drwy wrthod caniatáu mwy o amser ar gyfer trafodaethau ar gytundeb fasnach ôl Brexit.

Fodd bynnag, dywedodd llefarydd swyddogol ar ran y Prif Weinidog bod angen i Brydain fod yn rhydd o reolau’r Undeb Ewropeaidd er mwyn cael yr “hyblygrwydd” i ymateb i’r pandemig.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd Kristalina Georgieva, oherwydd yr “ansicrwydd digynsail” mae’r pandemig yn ei achosi, byddai’n “annoeth i ychwanegu mwy ar ei ben.”

Ond mynnai llefarydd y Prif Weinidog y byddai ymestyn y cyfnod pontio yn creu mwy o ansicrwydd.

“Ni fyddwn yn gofyn am ymestyniad i’r cyfnod pontio ac os bydd yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn, byddwn yn gwrthod,” meddai’r llefarydd.

“Byddai ymestyn y cyfnod pontio yn ymestyn y trafodaethau, achosi rhagor o ansicrwydd i fusnesau, ac yn oedi’r foment y gallwn reoli ein ffiniau.”

Yn ôl termau’r Cytundeb Ymadael gyda Brwsel, mae’r cyfnod pontio yn dod i ben ar ddiwedd 2020.

Mae gan Brydain yr hawl i wneud cais am ymestyniad os yw’r Llywodraeth yn teimlo bod angen mwy o amser arnynt i sicrhau cytundeb fasnach gyda Brwsel.

Mae ffigyrau blaenllaw ym Mrwsel, yn ogystal â gwrthbleidiau yn y Deyrnas Unedig wedi rhybuddio bod y pandemig coronafeirws yn golygu y bydd hi’n amhosib sicrhau cytundeb o fewn yr amserlen honno.

Fodd bynnag, mae Boris Johnson wedi mynnu dro ar ôl tro na fydd yn gwneud cais am ymestyniad – gan basio deddfwriaeth sy’n rhwystro’r Llywodraeth rhag gofyn am un.