Sir Jimmy Saville

Bu farw Jimmy Savill, un o ddiddanwyr enwocaf Prydain o’r chwedegau i’r wythdegau, a gwr gododd dros £40m at wahanol achosion da yn ystod ei oes.

Ar ôl cychwyn fel DJ efo Radio Luxembourg yn y pumdegau ymunodd efo Radio 1 yn y chwedegau ac ef oedd cyflwynydd cyntaf Top of the Pops ond ei raglen i deuluoedd Jim’ll Fix It roddodd iddo ei gynulleidfa fwyaf. Ar un adeg roedd y rhaglen yn derbyn 20,000 o lythyrau’r wythnos.

Roedd yn gymeriad lliwgar gyda’i wallt claerwyn, ei sigar anferth a’i chwerthiniad unigryw ac fe gafodd ei anrhydeddu’n farchog gan y Frenhines yn 1990 am ei waith yn codi cymaint o arian at wahanol achosion da. Rhedodd dros 200 o rasys marathon.

“Y rheswm yr ydw i’n gallu gwneud cymaint dros eraill ydi am fy mod yn sengl a bod gen i ddigonedd o amser,” meddai. “Tydw’i ddim eisiau dim gan neb. Dwi jest yn anghyffredin.”