Mae’r Llywodraeth wedi rhoi caniatâd swyddogol i waith adeiladu ddechrau ar brosiect HS2.

Mae cwmnïau fydd yn adeiladau cam cyntaf y rheilffordd wedi derbyn hysbysiad i fwrw ymlaen gyda’r gwaith.

Rhoddodd y Prif Weinidog Boris Johnson sêl bendith i’r prosiect fis Chwefror, er ei fod ddegau o biliynau o bunnoedd dros ei gyllideb a nifer o flynyddoedd tu ôl i’r amserlen.

Rhybuddiodd Adolygiad Oakervee, a gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth, y gallai cyfanswm y costau gyrraedd £106 biliwn ar sail prisiau 2019.

“Mae’r cam yma’n darparu sicrwydd i filoedd o weithwyr a busnesau ar draws y wlad – a hynny mewn cyfnod y maen nhw ei angen. Mae’n golygu y gallwn ddechrau’r gwaith ar y prosiect trawsnewidiol hwn,” meddai’r Gweinidog HS2 Andrew Stephenson.

Dywed Prif Weithredwr HS2 Ltd Mark Thurston bod y penderfyniad yn rhoi “hwb i’r diwydiant adeiladu” ac yn sicrhau bod gan gontractwyr a’u cadwyni cyflenwi’r “hyder eu bod yn gallu ymrwymo i adeiladu HS2.”

Mae diwydiant adeiladu y Deyrnas Unedig yn cyflogi dros ddwy filiwn o weithwyr ac yn cynhyrchu 6% o allbwn economaidd y wlad.

Roedd cam cyntaf HS2 i fod i agor yn 2026, ond mae’n bosib na fydd y gwasanaeth yn weithredol tan 2036.