Mae dros fil o deithwyr oedd i fod i hedfan efo Quantas, cwmni awyrennau cenedlaethol Awstralia, yn methu gadael maes awyr Heathrow wedi i’r cwmni atal pob un o’u hawyrennau rhag hedfan oherwydd anghydfod diwydiannol gan y gweithwyr.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Sydney, dywedodd Prif Weithredwr Quantas, Alan Joyce y bydd yr oll o awryennau’r cwmni yn segur hyd nes y bydd yr undebau sy’n cynrychioli’r peilotiaid a’r staff llawr  yn gallu cytuno efo’r cwmni ar newidiadau i gyflogau a thelerau gwaith.

“Rydym wedi penderfynu rhoi’r gorau i hedfan yn gyfangwbl yn rhyngwladol ac oddi mewn i Awstralia ar unwaith.” meddai. “Bydd yr awyrennau yn segur hyd nes y bydd yr anghydfod yma ar ben.”

Mae gwefan y cwmni yn cynghori teithwyr i beidio mynd i’r maes awyr am y tro gan ychwanegu y bydd pob teithiwr sy’n cael ei effeithio oherwydd yr anghydfod yn cael ad-daliad neu cyfle i ail-drefnu ac y bydd cymorth ar gael o safbwynt darparu llety a theithio efo cwmniau eraill i’r rhai sydd ynghanol eu taith.

Mae gweithwyr Quantas wedi cynnal cyfres o streiciau yn ddiweddar oherwydd ad-drefnu all olygu y bydd 1,000 o’r 35,000 sy’n gweithio i’r cwmni yn colli eu gwaith. Mae’r cwmni yn gwneud colled ar eu teithiau rhyngwladol ac yn bwriadu symud peth o’u gwaith i Asia er mwyn arbed arian.

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Awstralia, Anthony Albanese y bydd y llwyodraeth yn ymyrryd yn yr anghydfod.

“Rydym yn bryderus iawn ynglyn â gwethrediadau Quantas’meddai. “Chawson ni ddim gwybod am hyn o flaen llaw ar unrhyw adeg. Mae’r llywodraeth yn gwneud cais brys i Fair Work Australia (llys diwydiannol) i atal pob math o weithredu diwydiannol yn Quantas. Bydd y gorchymun yn cael ei anelu at yr undebau a rheolwyr Quantas fel ei gilydd” ychwanegodd.

Mae arweinydd Cymdeithas Peilotiaid Awstralia a Rhyngwladol, Barry Jackson bod y cwmni wedi ‘”herw-gipio” y genedl.

“Does yna ddim cynsail i hyn,” meddai. “Mae yn gorfodi’r llywodraeth i ymateb.”

Dywed Quantas y bydd 600 o deithiau awyr yn cael eu canslo gan effeithio ar dros 70,000 o deithwyr ar gôst o A$68m.