Mae’r cricedwr Jos Buttler yn codi arian at y Gwasanaeth Iechyd wrth werthu’r crys roedd e’n ei wisgo wrth i dîm Lloegr guro Seland Newydd i ennill Cwpan y Byd y llynedd.

Roedd y Sais yn allweddol wrth redeg Martin Guptill allan i gipio’r tlws i Loegr ar gae Lord’s yn Llundain.

Bydd yr holl elw o’r crys, sy’n cael ei werthu ar wefan eBay, yn mynd i Ysbyty Brenhinol Brompton er mwyn iddyn nhw allu trin cleifion â’r coronafeirws.

Mae’r wefan yn derbyn cynigion ar gyfer y crys hyd at 7.30 heno (nos Fawrth, Ebrill 7), ac mae’r crys eisoes wedi denu cynigion o £65,000 a mwy – gyda’r swm yma’n gallu prynu peiriant cynnal bywyd ar gyfer uned y galon a’r ysgyfaint.

‘Ystyr ychwanegol i’r crys’

“Mae’n grys arbennig iawn i fi, ond fe fydd iddo fe ystyr ychwanegol nawr,” meddai Jos Buttler, sydd â modryb yn gweithio yn yr uned.

“Pan ddechreuodd yr ymlediad, roedden ni’n siarad â hi am sut mae pethau ac a oedd yna rywbeth y gallen ni fod yn ei wneud,” meddai.

“Mae’r meddygon a nyrsys wedi bod yn gweithio’n oriau hir dros ben, yn ei chael hi’n anodd cael rhywbeth bach i’w fwyta a chynnyrch ymolchi oedd ei angen arnyn nhw, a dywedodd hi fod yna gyfraniad i’w wneud ar ei thudalen, a dyna wnes i a sawl un arall o chwaraewyr Lloegr.

“Dywedodd hi hefyd am apêl frys roedd yr ysbyty wedi ei sefydlu.

“Roedden nhw’n ceisio codi £100,000 i brynu cyfarpar brys ac fe ddywedais i wrth Louise y gallen ni roi fy nghrys o Gwpan y Byd mewn ocsiwn.”

Ynghyd â’i gyd-chwaraewyr yn nhîm Lloegr, mae Jos Buttler hefyd wedi rhoi 20% o’i gyflog am y tri mis nesaf i griced ar lawr gwlad.