Dominic Raab fydd yn arwain ymateb Llywodraeth Prydain i’r argyfwng coronafeirws wedi i’r Prif Weinidog gael ei symud i uned gofal dwys.
Cafodd Boris Johnson ei gludo i’r uned gofal dwys ddydd Llun (Ebrill 6) ar ôl i’w symptomau coronafeirws waethygu yn ystod y prynhawn.
Mae Boris Johnson wedi ildio rheolaeth “lle mae’n angenrheidiol” i’r Ysgrifennydd Tramor, a fydd yn dirprwyo.
Daw hyn wedi i gwestiynau gael eu gofyn am sut roedd e’n ddigon sâl i fod yn yr ysbyty ond yn holliach i arwain y Llywodraeth.
Tasg gyntaf Dominic Raab fydd arwain cyfarfod “Cabinet rhyfel” coronafeirws dyddiol gyda chydweithwyr uwch a phrif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig, Yr Athro Chris Whitty, a’r prif ymghynghorydd gwyddonol, Syr Patrick Vallance.
Mae wedi addo dilyn y “trywydd” sydd wedi ei osod gan y prif weinidog wrth ddelio â’r feirws, a dywedodd fod y ddau wedi siarad ddydd Sadwrn (Ebrill 4).
Triniaeth Boris Johnson
Cafodd Boris Johnson ei symud i uned gofal dwys am oddeutu 7 yr hwyr nos Lun.
Mae’n debyg ei fod yn ymwybodol ond roedd angen ei symud gan ei bod hi’n bosib y bydd angen peiriant anadlu arno rywbryd.
Profodd yn bositif am coronafeirws 10 diwrnod yn ôl.