Wrth i Syr Keir Starmer, arweinydd newydd y Blaid Lafur, ddechrau cyhoeddi ei gabinet cysgodol newydd, mae’r hen weinidogion cysgodol wedi dechrau cyhoeddi eu hymadawiadau.

Mae prif swyddi’r cabinet wedi’u cyhoeddi, ac mae Nick Thomas-Symonds yn eu plith, ond does dim lle i nifer o gefnogwyr pennaf Jeremy Corbyn, gan gynnwys Barry Gardiner ac Ian Lavery.

Dyma’r prif swyddi:

  • Canghellor yr wrthblaid – Anneliese Dodds
  • Llefarydd materion cartref – Nick Thomas-Symonds
  • Llefarydd materion tramor – Lisa Nandy
  • Llefarydd iechyd – Jonathan Ashworth

Ymadawiadau

Y cyntaf i fynd oedd Barry Gardiner, y llefarydd rhyngwladol, a ddywedodd iddo dderbyn “galwad gwrtais” gan yr arweinydd yn rhoi gwybod iddo ei fod yn cael ei “sefyll i lawr” o’i ddyletswyddau.

Wedyn daeth cadarnhad gan Ian Lavery, cadeirydd y blaid, na fyddai’n parhau yn y rôl honno gan ddweud y bu’n “fraint ac anrhydedd bod yn gadeirydd ar y blaid wych hon”.

Does dim lle bellach i Jon Trickett, llefarydd cabinet y blaid, ac yntau wedi cefnogi Rebecca Long-Bailey yn y ras arweinyddol, ac fe ddywedodd iddo gael “cais caredig” i adael y cabinet.

Mae’r tri cyntaf i adael y cabinet cysgodol yn gefnogwyr Jeremy Corbyn, sy’n arwydd o’r hyn sydd i ddod, efallai, wrth i Syr Keir Starmer ddechrau ar gyfnod newydd yn hanes y blaid a’i symud yn nes at y tir canol unwaith eto.

Cyhoeddodd un arall o’i gefnogwyr, Diane Abbott, ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 4) na fyddai hi’n parhau’n llefarydd materion cartref, ac roedd John McDonnell hefyd wedi cadarnhau na fyddai’n parhau’n ganghellor yr wrthblaid.

Penodiadau

Mae newyddion am y penodiadau newydd yn dechrau cyrraedd hefyd, wrth i’r dirprwy arweinydd Angela Rayner hefyd gael ei phenodi’n gadeirydd y blaid.

Anneliese Dodds yw canghellor newydd yr wrthblaid.

Ac mae swydd fawr i Lisa Nandy, un o’r tri yn y ras arweinyddol, wrth iddi gael ei phenodi’n llefarydd materion tramor.

Mae Nick Brown yn cael aros yn Brif Chwip, a Nick Thomas-Symonds, aelod seneddol Torfaen, yw’r llefarydd materion cartref newydd.

Rachel Reeves yw Canghellor cysgodol Dugiaeth Caerhir erbyn hyn, ac mae Jonathan Ashworth yn parhau’n llefarydd iechyd.

Angela Smith yw arweinydd cysgodol Tŷ’r Arglwyddi.