Fe allai gostyngiad o 30% yng nghyflogau pêl-droedwyr Uwch Gynghrair Lloegr gostio dros £200m mewn refeniw trethi i Lywodraeth Prydain, yn ôl Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA).

Daw’r sylwadau yn dilyn cyfarfod cyswllt fideo ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 4) rhwng yr Uwch Gynghrair, y PFA a Chymdeithas Rheolwyr y Gynghrair (LMA) i drafod eu hymateb i’r argyfwng coronafeirws.

Fe fu pêl-droedwyr dan bwysau mawr i dderbyn gostyngiad yn eu cyflogau dros yr wythnosau diwethaf ar ôl i’r tymor pêl-droed gael ei ohirio, sydd wedi gorfodi clybiau i sicrhau bod eu staff, ond nid chwaraewyr, yn mynd ar gennad.

Mae Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, wedi mynegi pryder am y ffrae rhwng yr Uwch Gynghrair a’r PFA gan ddweud nad yw “pobol eisiau gweld rhyfel cartef o fewn ein gêm genedlaethol yn ystod argyfwng”.

Daw’r pryderon hynny ddiwrnodau’n unig ar ôl i Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Iechyd, annog pêl-droedwyr “chwarae rhan” yn yr ymdrechion.

Safbwynt y PFA

Tra bod y PFA yn mynnu bod ei haelodau eisiau gwneud “cyfraniadau ariannol sylweddol”, maen nhw’n rhybuddio bod gostyngiad o 30% yn cyfateb i £500m, ac y byddai 40% yn mynd at drethi.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “ceisio datrysiad a fydd yn cael ei asesu’n barhaus”, a bod chwaraewyr yn “ymwybodol fel gweithwyr PAYE, fod y dreth gyfun ar eu cyflogau’n gyfraniad sylweddol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol”.

“Bydd cymryd gostyngiad o 30% mewn cyflogau yn costio symiau sylweddol i’r Trysorlys,” meddai’r undeb mewn datganiad.

“Byddai hyn yn niweidiol i’n Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau eraill sy’n cael eu hariannu gan y Llywodraeth.”

Mae Uwch Gynghrair Lloegr eisoes wedi addo £125m ymlaen llaw i’r Gynghrair Bêl-droed ac i’r Gynghrair Genedlaethol, ond mae’r chwaraewyr yn dweud nad yw’r taliadau’n ddigonol.