Plentyn pump oed yw’r ieuengaf hyd yn hyn i farw o ganlyniad i’r coronafeirws yng ngwledydd Prydain.

Roedd yn un o 637 o achosion newydd a gafodd eu cyhoeddi yn Lloegr heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 4).

Mae Michael Gove wedi cydymdeimlo â’r teulu ar ran Llywodraeth Prydain.

“Mae ein meddyliau ni heddiw gyda theulu’r plentyn pump oed â chyflwr meddygol gwaelodol sydd, yn drasig iawn, wedi marw,” meddai yn y gynhadledd ddyddiol.

Bachgen 13 oed

Cyn heddiw, bachgen 13 oed oedd yr ieuengaf i farw o ganlyniad i’r feirws yng ngwledydd Prydain.

Bu farw Ismail Mohamed Abdulwahab yn yr ysbyty ddydd Llun (Mawrth 30).

Doedd neb o’i deulu agos yn yr angladd ddoe (dydd Gwener, Ebrill 3) gan eu bod nhw’n ynysu eu hunain ar ôl i un arall o’r plant gael symptomau.