Joanna Yeates
Cafwyd Vincent Tabak yn euog o ladd Joanna Yeates heddiw, ac mae’n wynebu oes dan glo am grogi ei gymdoges i farwolaeth cyn creu cyfres o gelwyddau er mwyn ceisio cuddio’i drosedd.
Roedd perthnasau’r ddynes 25 oed yn y galeri gyhoeddus pan wrthododd y rheithgor honiad Tabak nad oedd wedi bwriadu ei lladd.
Fe benderfynon nhw bod y dyn o’r Iseldiroedd yn gelwyddgi “cyfrwys” a oedd wedi cyffroi’n rhywiol yn ystod yr ymosodiad.
Daw’r ddedfryd er i’r erlyniad gael ei atal rhag son wrth y rheithgor am gyfrinachau rhywiol ffiaidd Tabak yn ystod yr achos.
Yn dilyn y ddedfryd gellir datgelu bod Tabak wedi crogi Joanna Yeates ar ôl mynd yn obsesd gyda rhyw a phornograffi treisgar.
Daethpwyd o hyd i fideos ar ei liniadur yn dangos merched penfelyn yn cael eu crogi tra’n cael rhyw.
Cafodd Joanna Yeates ei llofruddio ym Mryste ar Ragfyr 17 y llynedd.
Mewn ymdrech ddewr i ddal gafael ar ei bywyd, mi wnaeth y ferch benfelen ddiodde’ 43 o anafiadau wrth frwydro yn erbyn ei llofrudd chwe troedfedd a phedair modfedd.
Pan ddaeth y ddedfryd, eisteddodd Tabak i lawr a rhoi ei ben yn ei ddwylo.
Fe ddywedodd y Barnwr Field: “Rwy’n credu bod yna elfen rywiol i’r llofruddio yma.”