Mae pobl ifanc a gweithwyr sydd ar gyflogau isel “yn debygol o ddioddef waethaf” oherwydd y glec i’r economi yn sgil coronafeirws, yn ôl ymchwil.

Cafodd data ei gasglu o “sampl daearyddol mawr” ym Mhrydain ag America gan economegwyr o brifysgolion Caergrawnt, Rhydychen a Zurich.

Yn y Deyrnas Unedig, cafodd 3,974 o bobol eu holi ar Fawrth 25, tra bod data gan 4,003 o bobol wedi ei gasglu yn yr Unol Daleithiau ar Fawrth 24.

Mae gweithwyr ifanc yn y ddwy wlad yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swyddi neu weld eu horiau a’u cyflog yn gostwng – o gymharu â gweithwyr canol oed, yn ôl yr ymchwil.

O’r rhai oedd mewn gwaith fis diwethaf, mae 10% o weithwyr dan 30 oed bellach yn ddi-waith a hynny “yn bendant” neu yn “debygol o fod” oherwydd coronafeirws.

O’i gymharu, 6% yw’r ganran ar gyfer gweithwyr rhwng 40 a 55 oed.

Mae 69% o weithwyr o dan 30 yn gweithio llai o oriau gyda 58% yn ennill llai o gyflog, o’i gymharu â 49% a 36% o weithwyr rhwng 40 a 55 oed.

Mae gweithwyr o dan 30 oed sydd dal mewn gwaith yn credu eu bod yn llawer iawn mwy tebygol o golli eu gwaith erbyn mis Awst, o’i gymharu â phobl 40 i 55 oed.

“Effaith anghyfartal”

Roedd gweithwyr ar gyflogau isel – y sawl sy’n ennill llai na 20,000 o bunnoedd neu ddoleri’r flwyddyn – ar draws yr holl grwpiau oedran yn fwy tebygol o golli eu gwaith yn y pedair wythnos diwethaf na gweithwyr oedd yn ennill dro £40,000 yn y Deyrnas Unedig a $50,000 yn yr Unol Daleithiau.

“Mae ein  darganfyddiadau yn awgrymu bod effaith uniongyrchol y coronafeirws ar weithwyr wedi bod yn fawr ac anghyfartal, gyda’r ifanc a gweithwyr ar gyflogau isel yn dioddef waethaf,” meddai’r ymchwilwyr.

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod 8% o bobol oedd mewn gwaith fis Chwefror wedi colli eu swyddi yn barod.

Ac mae darogan y bydd traean y bobol sydd dal mewn gwaith yn colli eu swyddi yn y pedwar mis nesaf.

Cafodd yr ymchwil ei greu cyn i Ganghellor y Deyrnas Unedig Rishi Sunak gyhoeddi mesurau newydd ar gyfer pobl hunangyflogedig.

Fodd bynnag, dywed ymchwilwyr y “gallai hi fod yn rhy hwyr i atal caledi economaidd difrifol.”