Bydd maes awyr Heathrow yn cau un o’i lleiniau glanio’r wythnos nesaf mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws.

Dim ond un llain fydd yn cael ei defnyddio yno o ddydd Llun nesa’ ymlaen, a’r nod yw diogelu staff, teithwyr a chargo.

“Mae yna dipyn yn llai o hediadau ar hyn o bryd,” meddai llefarydd maes awyr Heathrow.

“Ond bydd Heathrow yn parhau ar agor fel ein bod yn medru parhau i chwarae rhan hollbwysig wrth helpu i sicrhau deunydd meddygol a bwyd i’r genedl yn ystod yr epidemig digynsail yma.”

Mae gan y maes awyr ddwy lain lanio a byddan nhw’n parhau i ddefnyddio’r pâr – ond mi fydd un ar gau pob tro.

Mae Heathrow yng ngorllewin Llundain, ac yn 2018 bu 475,624 o hediadau yno.