Mae dros 950,000 o bobol wedi ceisio am fudd-daliadau Credyd Cynhwysol dros y pythefnos diwethaf – yn ystod pythefnos arferol, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn derbyn rhyw 100,000 cais i gyd.

Budd-dal yw Credyd Cynhwysol (Universal Credit) sydd ar gael i’r rheiny sy’n ddi-waith, neu ag incwm isel. Mae’n cael ei dalu yn fisol, ac i fod i helpu â chostau byw.

Rhaid aros pum wythnos cyn derbyn y taliad cyntaf, ac mae rhai’n gofidio y bydd hynny’n gorfodi  rhai i fenthyca arian am gyfnod – gan ddwysau eu problemau yn y pendraw.

“Argyfwng dyled”

“Gallai’r sustem benthyciad Credyd Cynhwysol achosi argyfwng dyled,” meddai Rebecca Keating, Cyfarwyddwr Cyflogaeth Byddin yr Iachawdwriaeth.

“Mae miloedd o bobol nad oedden nhw erioed yn credu y byddai’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar gefnogaeth y wladwriaeth yn ceisio am Gredyd Cynhwysol.

“Bydd llawer o’r rhain yn cael eu gorfodi i fenthyca arian ar gyfer y cyfnod cyn derbyn y budd-dal.”